Black Lives Matter

Gan Ffion-Haf Davies

“I can’t breathe. Please, I can’t breathe.”

Yn aml y dyddiau yma, mae’n teimlo fel ein bod yn byw mewn dystopia; bywyd arferol wedi’i rewi, pobl yn marw yn eu miloedd, a’r newyddion yn frith gydag anghyfiawnderau. Ar y 25ain o Fai cafodd anghyfiawnder arall ei ychwanegu at y rhestr diddiwedd yma, anghyfiawnder sydd wedi sbarduno protestiadau yn America ac ym Mhrydain, anghyfiawnder gyda dyn 46 mlwydd oed yn ei ganol. Llofruddiwyd George Floyd yng ngolau dydd gan Derek Chauvin wrth iddo binio gwddf Floyd i’r llawr gyda’i ben-glin. Er gwaethaf yr erchylltra hwn, nid dyma’r unig farwolaeth eleni o ganlyniad i hiliaeth. Ahmaud Arbery, Breonna Taylor, Belly Mujinga, George Floyd, Tony McDade. Pum person croenddu dieuog a oedd dim ond eisiau byw eu bywydau, wedi’u lladd o ganlyniad i hiliaeth. Pum enw o blith y miloedd sydd wedi dioddef o ganlyniad i liw eu croen.

Ahmaud Arbery

Ar y 23ain o Chwefror 2020 penderfynodd Ahamud Arbery fynd i redeg yn ei gymdogaeth yn Glenn County, Georgia, UDA. Yn ddiwybod i’r dyn 25 mlwydd oed yma, dyma fyddai’r tro olaf iddo fynd i redeg. Cafodd ei ddilyn a’i herio gan ddau drigolyn gwyn, Travis a Gregory McMichael a saethodd ef deirgwaith. Roedd Arbery heb arfau.

Er gwaethaf y llofruddiaeth yma, cymrodd 74 diwrnod i Travis a Gregory McMichael gael eu harestio, a phryd hynny dim ond ar ôl i fideo o’r cyfarfyddiad fynd yn ‘viral.’ Ond nid dyma oedd yr unig achos o hiliaeth roedd Arbery wedi wynebu yn ei fywyd. Daeth ail fideo i’r fei yn dangos yr heddlu yn ceisio defnyddio taser arno wrth iddo eistedd ar ei ben ei hun yn ei gar ym mis Tachwedd 2017.  I’r dyn ifanc yma, dioddefodd o leiaf dau ymosodiad hiliol treisgar, gydag un yn diweddu ei fywyd.

Breonna Taylor

Yn ystod y pandemig yma mae gofalwyr iechyd wedi cael eu cymeradwyo dro ar ôl tro am y gwaith hanfodol maent wedi cyflawni, ond i un gofalwr iechyd yn yr UDA nid cymeradwyaeth ond marwolaeth wynebodd hi. Cafodd Breonna Taylor, a oedd dim ond yn 26 oed, ei saethu wyth gwaith yn ei chartref pan aeth yr heddlu i mewn i’w fflat yn Louisville ar y 13eg o Fawrth 2020. Roedd gan yr heddlu warant i chwilio am gyffuriau, ond nid oedd yna unrhyw gyffuriau i’w ffeindio. Nid oedd yr heddlu yn chwilio’n benodol am Taylor neu ei phartner.

Mae’r heddlu’n honno eu bod wedi cyhoeddi pwy oedden nhw cyn mynd mewn i’r tŷ ond yn ôl partner Breonna Taylor a’r cymdogion wnaethon nhw ddim o’r fath. Saethodd partner Taylor at yr heddlu (gweithred o hunan-amddifyn oedd y rheswm a roddodd yn hwyrach) ond nid oedd hyn yn achos i farwolaeth Taylor. Dywed yr achos llys bod yr heddlu wedi “saethu’n dall ar hyd a lled cartref Breonna” a bod Breonna ei hun “heb fod yn fygythiad i’r heddlu.” Roedd gan Breonna Taylor freuddwydion o fod yn nyrs, prynu tŷ a dechrau teulu yn ôl ei mam ond ni fydd y freuddwyd yma byth yn cael ei gwireddu o ganlyniad i gyrch yr heddlu.

Belly Mujinga

Roedd Belly Mujinga yn weithiwr allweddol yng ngorsaf Victoria, Llundain pan gafodd ei phoeri arno gan aelod o’r cyhoedd. Wrth iddi weithio daeth dyn ati a gofyn beth roedd hi’n gwneud ar y ‘concorde.’ Ar ôl iddi ateb ei bod yn gweithio, dywedodd y dyn fod ganddo Covid-19 ac yna poerodd arni ac un o’i chyd-weithwyr. Ar ôl yr ymosodiad yma, datblygoddd hi’r feirws ac o ganlyniad bu farw. 

Er nad oedd yr ymosodiad yma’n gysylltiedig â’i marwolaeth ar y 5ed o Ebrill yn ôl y Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, nid yw hynny yn lleihau erchylltra’r ymosodiad. Roedd Belly Mujinga yn gwneud ei swydd yn ystod adeg hynod gythryblus ac er gwaethaf hyn cafodd ei hymosod arno. Mae’r ymosodiad yn dyst afiach i’r ffaith fod hiliaeth dim yn unig yn broblem yn yr UDA

Tony McDade

Cafodd Tony McDade ei saethu’n farw ar y 27ain o Fai 2020 gan heddwas gwyn yn Tallahassee, Florida, UDA. Roedd McDade, a oedd yn ddyn trawsryweddol, dan amheuaeth o drywanu rhywun yn angheuol felly dilynodd yr heddlu ef unwaith roedden nhw wedi ei ddarganfod. Nid oedd gan McDade arf ac yn ôl sawl adroddiad gan newyddion lleol a’r cyfryngau cymdeithasol nid oedd wedi cael rhybudd cyn i’r swyddog ddechrau saethu. 

Yn ôl adroddiadau lleol cafodd McDade ei ymosod arno’r diwrnod cyn iddo gael ei ladd, er bod natur yr ymosodiad yma’n ansicr. Roedd Tony McDade nid yn unig yn ddioddefwr o hiliaeth ond hefyd o drawsffobia. Fe oedd yr 11eg person trawsryweddol i gael ei saethu i farwolaeth yn 2020. Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol y Glymblaid Cyfiawnder Du Cenedlaethol: “This tragic incident should be a reminder that hate crimes against Black LGBTQ/SGL people happen too frequently — often without the national public outcry that our cis and/or heteronormative brothers and sisters receive.” Wrth i ni ddatgan bod hawliau pobl groenddu yn bwysig mae angen i ni gofio bod hawliau pob person croenddu yn bwysig, nid yn unig ond rhai ‘heteronormative.’

George Floyd

“It’s natural to wish for life ‘to just get back to normal’ as a pandemic and economic crisis upend everything around us. But we have to remember that for millions of Americans, being treated differently on account of race is tragically, painfully, maddeningly ‘normal’… This shouldn’t be ‘normal’ in 2020 America. It can’t be ‘normal.’ If we want our children to grow up in a nation that lives up to its highest ideals, we can and must be better”

– Barack Obama, Arlywydd croenddu cyntaf ac unig arlywydd croenddu’r UDA (2008-2016)

Mae datganiad Barack Obama yn amlygu problem yr anghyfiawnderau yma. Nid achosion ynysig o hiliaeth oedd rhain. I gymaint o bobl groenddu, dyma yw eu normal. Wrth i brotestiadau dros farwolaeth George Floyd ‘sgubo ledled yr UDA a’r DU mae Arlywydd presennol yr UDA, Donald Trump wedi disgrifio’r protestwyr fel “thugs” a “vicious dogs.” Mae’r iaith yma i ddisgrifio pobl sydd wedi wynebu caledi na fydd pobl gwyn byth yn gallu deall yn llawn yn bryderus. O ddisgrifio llofruddiaeth George Floyd fel “grave tragedy” yn ei gynhadledd i’r wasg i alw’r protestwyr yn enwau mor amharchus,  mae’r cyferbyniad yn amlwg. Mae cael eich lladd yn “tragedy” ond mae ofni cael eich ladd, mae protestio yn erbyn cynifer o bobl yn cael eu lladd, yn eich gwneud yn “thug.”

Ond ‘does bosib fod llofruddiaeth George Floyd ddim yn anghyfiawnder bellach? Yn wir, mae Derek Chauvin a oedd wedi pinio Floyd i’r llawr wedi cael ei arestio am lofruddiaeth yn y drydedd radd a dynladdiad, felly onid yw hynny’n dystiolaeth clir fod yna gyfiawnder? Efallai (er bod rhai yn galw iddo gael ei arestio am lofruddiaeth yn y radd gyntaf yn hytrach na’r drydedd radd), ond nid yw’r ffaith bydd Chauvin yn wynebu carchar yn dod a Floyd yn ôl. Nid carchar yn unig yw cyfiawnder. Cyfiawnder fyddai sicrhau taw Floyd yw’r olaf i farw oherwydd ei hil. Nes i ni gyrraedd y pwynt pan mae’r person croenddu olaf wedi dioddef oherwydd ei hil, wedi marw oherwydd ei hil, yna ni fydd yna gyfiawnder.

Wrth i fywyd fynd yn ei flaen mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i gofio’r rheini sydd wedi marw. Cofiwch Ahmaud Arbery a aeth allan i redeg. Cofiwch Breonna Taylor a’i breuddwydion o fod yn nyrs. Cofiwch Belly Mujinga a oedd dim ond yn cyflawni ei swydd. Cofiwch George Floyd a oedd methu anadlu. Cofiwch Tony McDade a oedd yn ddioddefwr o drawsffobia yn ogystal â hiliaeth. Cofiwch bawb a fu farw oherwydd lliw eu croen. Os nad ydym ni’n eu cofio, bydd bywyd yn dychwelyd i’r normal hiliol sydd wedi bodoli ers canrifoedd. Ac nid dyna yw’r ‘normal’ mae pobl groenddu’n haeddu.

Leave a comment