Gan Meg Cameron
Mae digwyddiadau diweddar wedi ein gorfodi i gwestiynu ein hunain. Ydyn ni’n gwneud digon? Os na, sut allwn ni helpu? Mae’n anffodus ei fod wedi cymryd llofruddiaeth George Floyd i achosi cynnwrf o’r fath, ond os ydyn ni gyd yn gwneud gwir ymdrech, gallwn wneud gwahaniaeth.
Dwi wedi ysgrifennu’r erthygl yma i’ch tywys trwy’r wahanol ffyrdd gallwch helpu a chefnogi’r frwydr yn erbyn hiliaeth. Nid yw hiliaeth yn rhywbeth dim ond i bobl groenddu frwydro yn ei erbyn, mae’n dyletswydd arnom ni i gyd. Nid yw’n ddigon i beidio bod yn hiliol, mae’n rhaid bod yn weithredol wrth-hiliol.
Dyma fy awgrymiadau ar sut gallwch chi helpu:
Cydnabyddwch
Un o’r pethau cyntaf sydd rhaid digwydd cyn gallwch weithredu, yw cydnabod eich braint! Dydy bod yn fenyw, yn hoyw neu’n anabl DDIM yr un peth, er gall helpu cydymdeimlo. Fel person gwyn ni fyddwch chi byth gwir yn deall yr effaith mae hiliaeth yn cael ar fywyd person croenddu. Mae llawer iawn o bobl yn gweld hi’n anodd trafod braint gwyn, neu hyd yn oed yn mynd yn amddiffynnol ohono. Gallwn ddysgu am hanes ein hil yn hawdd. Rydym ni’n cael ein gorgynrychioli yn y cyfryngau. Nid ydym ni’n cael ein hystrydebu i fod yn dreisgar oherwydd ein hil. Mae gennym ni’r fraint o gael ein “hatgoffa” o hiliaeth pan mae rhywun yn cael ei ladd, er bod rhaid i hyn newid. Heb gydnabod y rhain, rydym yn diystyru hiliaeth o’r dechrau. Bydd erthygl fanylach ar fraint gwyn yn dod yfory!
Gwrandewch
Pan mae pobl groenddu yn siarad am hiliaeth bob dydd a braint gwyn, gwrandewch. Nhw sydd yn gwybod mwy nag eraill am y pwnc a thrwy wrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i ddweud, rydych yn barod wedi dechrau helpu. Problem fawr yn ein cymdeithas heddiw yw’r diffyg sylw a’r tuedd i anwybyddu pobl croenddu os oes rhywun gwyn yn siarad am yr un pwnc. Dydy gorffen trafodaeth oherwydd rydych yn teimlo’n anghyffyrddus ddim yn helpu gwthio’r drafodaeth ymlaen chwaith, ac yn atgyfnerthu braint gwyn. Nid oes gan bobl croenddu ddewis ond byw gyda hiliaeth pob dydd! Byddai’n llawer mwy cynhyrchiol i wrando’n ofalus a pheidio barnu pan mae pobl croenddu yn trafod yr anawsterau mae’n rhaid iddyn nhw fynd trwyddo’n ddyddiol.
Anrhydeddwch
Mae’n rhaid anrhydeddu teimladau pobl croenddu. Er fod gennych lawer o deimladau personol ar y mater (efallai euogrwydd neu ddicter), ceisiwch wahanu’r rhain o’r sefyllfa. Nid yw’r drafodaeth yn ffocysu ar bobl gwyn am reswm. Parchwch deimladau person croenddu, mae hyn yn golygu peidio diflasu wrth wrando. Dyfalwch pa mor flinedig fyddai byw gyda hiliaeth! Mae hyn yn dod a ni nol at gydnabod ein breintiau. Byddwn ni byth yn deall sut mae hiliaeth yn effeithio ar berson felly mae’n bwysig i anrhydeddu hyn. Nid yw hyn yn golygu dylai pobl gwyn osgoi ymuno â’r drafodaeth – mae’n bwysig trafod y peth, ond dylech ffocysu ar deimladau’r rhai sydd yn cael eu heffeithio a helpu chwilio am ddatrysiad!
Gofynnwch
Gofynnwch ddigonedd o gwestiynau! Mae’n iawn os ydych yn ansicr am rywbeth. Byddai’n afrealistig i gredu bod popeth yn gwneud synnwyr yn syth wrth ddelio gyda phwnc mor gymhleth. Y ffordd orau i geisio eglurder yw gofyn cwestiynau, wrth gofio bod yn barchus. Os ydych yn ansicr am rywbeth yn yr ysgol, byddech yn gofyn i’r athro oherwydd maen nhw’n addysgedig ar y pwnc. Dydy hyn ddim yn wahanol. Wrth fod yn chwilfrydig, rydych yn llawer mwy tebygol o ddangos empathi, a gallu helpu.
Addysgwch
Addysgwch eich hun cymaint ag y gallwch ar y pwnc, trwy archwilio ar y we, gwylio rhaglenni dogfen, neu ddarllen llyfrau. Mae erthygl ar ein blog o’r enw ‘Hiliaeth: Yr Ail Bandemig i’n Taro Ni yn 2020’, sy’n le gwych i ddechrau. Byddaf hefyd yn rhoi rhai argymhellion isod i’ch helpu. Er bod trafod hil gyda phobl yn hynod o bwysig mae’n rhaid cofio fod gan bobl terfynau ar eu hegni. Felly os nad yw rhywun eisiau trafod y pwnc, parchwch hyn, ond peidiwch rhoi’r gorau iddi. Trwy addysgu eich hun, bydd yn rhoi fwy o hyder i allu siarad lan, annog a helpu pobl eraill i wneud yr un peth!
Heriwch
Heriwch eraill i drafod hiliaeth a barn eu hun. Ceisiwch annog pobl eraill i feddwl am y pethau bach sydd yn cael eu dweud, neu sut gall hil gael ei phortreadu yn y cyfryngau. Mae yna ormod o ragfarnau isymwybodol yn ein cymdeithas, a gallwn ni ac eraill gydnabod y rhain a cheisio’u newid nhw.
“Our lives begin to end the day we become silent about the things that matter”
– Martin Luther King Jr.
Dysgwch eraill
Os oes gennych aelodau teulu, hen neu ifanc, sydd ddim yn gwybod lot am yr hyn sydd yn digwydd, siaradwch a hwy! Os ydych wedi bod yn addysgu eich hun, pam na ddylech rannu’r wybodaeth gydag eraill? Po fwyaf o bobl sy’n dysgu, gorau oll. Nid oes gan unrhyw un esgus i beidio dysgu am hiliaeth, mae’n broblem sydd wedi bodoli am ganrifoedd, ac os nad ydym ni’n gwneud rhywbeth amdano nawr mi fydd yn parhau i fodoli am ganrifoedd. Er gall fod yn bwnc anodd iawn i drafod, trwy dorri’r rhwystrau yma gellir goresgyn y lletchwithdod a thorri lawr unrhyw ragfarnau sy’n bodoli yn ein cymdeithas.
Peidiwch anwybyddu
Os ydych yn gweld neu’n clywed unrhyw beth amharchus a hiliol yn digwydd, peidiwch ofni ei herio! Yr unig ffordd gallwn ddechrau newid ein cymdeithas yw trwy sefyll lan dros yr hyn sy’n gywir, hyd yn oed os yw trwy herio ffrind neu ddieithryn ar y bws. Ni all ‘rhyddid mynegiant’ fod yn rhydd os yw’n costio bywydau. Trwy ddefnyddio eich llais gallwch godi ymwybyddiaeth am beth sy’n gywir neu’n anghywir, a hefyd rhoi’r hyder i eraill wneud yr un peth. Gall un person wneud y byd o wahaniaeth, credwch yn y pŵer sydd gennych fel unigolyn!
“I’ve learnt that no one is too small to make a difference”
Greta Thunberg
Dwi’n mawr obeithio fod yr erthygl hon wedi eich ysbrydoli ac wedi rhoi’r hyder i chi wybod eich bod yn gallu helpu. Mae’n hynod o bwysig cofio neges ein pwyllgorau sef i gadw’n barchus ac i anrhydeddu eraill trwy’r amser! Mae’r frwydr yn erbyn hiliaeth wedi bod yn un hir, felly ni fydd yn hawdd goresgyn, ond ni ddylech eistedd o gwmpas yn ddiymadferth.
Mae hiliaeth yn broblem bob dydd, nid ond pan mae’n ‘trendio’ ar y cyfryngau cymdeithasol.
Llyfrau i ddarllen
11+
SLAY gan Brittney Morris, THE BOXER gan Nikesh Shukla, THE HATE U GIVE gan Angie Thomas, DEAR MARTIN gan Nic Stone, THE SKIN I’M IN gan Sharon G. Flake
16+
BELOVED gan Toni Morrison, FREEDOM IS A CONSTANT STRUGGLE gan Angela Davis, YOUR SILENCE WILL NOT PROTECT YOU gan Audre Lorde, BETWEEN THE WORLD AND ME gan Ta-Nehisi Coates, THE NEW JIM CROW: MASS INCARCERATION IN THE AGE OF COLORBLINDNESS gan Michelle Alexander
Podlediadau
THE NOD, THE STOOP, CODE SWITCH, SEE SOMETHING, SAY SOMETHING, SOOO MANY WHITE GUYS
I wylio
13th(15), I AM NOT YOUR NEGRO (PG-13), CRIME + PUNISHMENT (PG-13), THE CENTRAL PARK FIVE (15), SELMA (12a), 12 YEARS A SLAVE (15), BLACKKKLANSMAN (15)
Os ydych eisiau rhoi
https://www.justgiving.com/theredcard
https://www.gofundme.com/f/georgefloyd
https://secure.actblue.com/donate/ms_blm_homepage_2019
Lincs defnyddiol
https://www.theredcard.org/blog
https://www.idra.org/resource-center/what-is-racism/
http://www.aclrc.com/myth-of-reverse-racism
