Gan Anneira a Carys Moore
Erbyn hyn, rydym ni wedi bod mewn cwarantin am naw wythnos hir ac er efallai nad ydych yn ymwybodol o hyn mae’r wythnos hon yn Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Mae’r wythnos yn bwysig iawn, yn enwedig yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, er mwyn i ni allu hybu trafodaethau ynglŷn ag Iechyd Meddwl a chodi ymwybyddiaeth ohono. Mae’r cyfnod yma’n gallu achosi llawer o bryder i bobl, gan wneud i bobl deimlo’n unig iawn gan eu bod wedi’u hynysu i’w tai. Oherwydd hyn felly rydym ni fel Pwyllgorau Hawliau Ysgol Gyfun Gwyr wedi casglu’r hyn rydym wedi gwneud yn ystod y cwarantin er mwyn ceisio cadw iechyd meddwl da.
Meddwlgarwch
Un peth mae rhai aelodau wedi bod yn gwneud yn ystod y ‘lockdown’ yw gwrando ar wahanol Podlediadau. Un dull poblogaidd iawn ymysg y pwyllgorau yw gwrando ar bodlediad meddwlgarwch. Mae’r Playlist ‘Guided Meditation’ ar Spotify yn cynnig nifer fawr o bodlediadau meddwlgarwch er mwyn clirio’r meddwl. Teimlwn fod myfyrio yn ffordd wych o ddianc o straen bywyd a chael amser o heddwch a thawelwch i ganolbwyntio arnoch chi eich hun.
Cadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau
I nifer fawr o bobl dyma’r ffordd orau y gallant sicrhau eu bod yn cadw meddwl clir. Yn ystod yr amseroedd rhyfedd yma mae pobl yn aml yn gallu teimlo’n ddieithr iawn ac yn hynod o unig gan eu bod yn dibynnu ar eu ffrindiau i sicrhau sefydlogrwydd meddwl. Rydym yn lwcus iawn i allu byw mewn oes lle mae technoleg yn ganolbwynt iddo ac felly mae nifer o ffyrdd y gallwn gadw mewn cysylltiad gyda’n ffrindiau. Yn benodol rydym ni yn hoff iawn o gynnal cwis digidol wythnosol ar Zoom er mwyn gallu cyfathrebu gyda’n ffrindiau mewn ffordd hamddenol iawn ond hefyd mae’n rhoi rhywbeth i ni allu edrych ymlaen ato. Er hyn, efallai nad yw’n cynnig cysur i rai gan nad ydynt yn cyfathrebu cymaint o fewn grwpiau mawr. Serch hynny, mae dal yn ffordd o gadw mewn cysylltiad a gweld wyneb cyfarwydd. Teimlaf ei fod yn bwysig iawn i ‘Checko’ mewn ar fy ffrindiau pob nawr ac yn y man ar Snapchat er mwyn sicrhau eu bod yn iawn. Rhaid cofio mae un o’r hawliau dynol yw’r hawl i lais ac felly mae’n bwysig sicrhau eich bod yn defnyddio eich llais i siarad ag eraill.
Osgoi gorddefnydd o gyfryngau cymdeithasol
Mae’n bwysig iawn i nifer o bobl yn ystod yr amseroedd estron hyn i beidio cael eich boddi gan y pethau negyddol rydych yn eu darllen neu’n gweld ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn aml mae dylanwadwyr yn postio pethau afrealistig ar y cyfryngau cymdeithasol a gall hyn achosi i bobl deimlo’n israddol ac yn isel. Un ffordd mae rhai aelodau wedi llwyddo i wneud hyn yw trwy osod amserydd pan maent yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Er enghraifft gallwch osod amserydd o 20 munud wrth fynd ar Instagram. Mae hyn yn sicrhau nad ydych yn gweld gormod o bostiau negyddol a allai arwain i chi deimlo’n unig neu’n wael. Mae hefyd yn sicrhau nad ydych yn oedi gormod rhag gwneud gwaith neu bethau ‘cynhyrchiol’ eraill.
Sicrhau eich bod yn cynnal eich diddordebau
Mae’r ‘lockdown’ wedi golygu fod nifer fawr o weithgareddau allgyrsiol wedi dod i stop sydyn. O ganlyniad mae nifer o bobl wedi diflasu sy’n gallu arwain at bobl yn teimlo’n isel. Hefyd mae pwysau gwaith ysgol a gorfod newid i ddysgu arlein ac yn annibynnol y rhan fwyaf o’r amser yn gallu teimlo’n llethol. Mae hyn i gyd yn golygu nad ydym yn ystyried ein diddordebau gymaint. Trwy barhau â diddordebau y gallwch wneud yn y tŷ, mae’n gadael i chi cael dihangfa o’r holl waith ysgol ayyb. Dyma rhai o’r diddordebau rydym ni fel y pwyllgorau wedi ceisio parhau â nhw: darllen, chwarae offerynnau, ysgrifennu’n greadigol, gwrando ar gerddoriaeth, Celf, pobi, coginio, dawnsio, canu a dysgu iaith newydd. Yn ôl un o’r aelodau o’r Pwyllgor Gwrth-hiliaeth ag Islamaffobia, mae cadw lan gyda’i diddordebau yn “rhoi synnwyr o lwyddiant i mi”. Mae Erthygl 31 yn datgan fod gan bawb yr hawl i gael hwyl mewn unrhyw ffordd yr hoffent ond mae ganddynt hefyd yr hawl i ymlacio.
Ymarfer corff
Fel y Pwyllgorau Hawliau rydym ni’n credu bod ymarfer corff o unrhyw fath yn ffordd dda o glirio’r meddwl a chadw’n iach. Mae tystiolaeth yn dangos bod ymarfer corff yn lleihau pryder ac iselder ac yn gwella eich hwyliau. Wrth wneud ymarfer corff mae cemegion o’r enw endorffins yn cael eu rhyddhau ac mae rhain wedi cael eu profi i leihau poen a hybu teimladau positif. Mae aelodau’r pwyllgorau wedi bod yn cymryd rhan mewn nifer o wahanol fathau o ymarfer corff. Er enghraifft, maent wedi bod yn cymryd rhan mewn ‘Couch to 5km’ neu’n ceisio gwneud sesiwn yoga pob dydd. Yn ystod ‘lockdown’ mae gwneud ymarfer corff yn bwysicach nag erioed. Mae’n eich galluogi chi i gael awyr iach ond hefyd i wynebau pobl eraill ond gan ddilyn y rheolau ymbellhau cymdeithasol.
Ceisio cadw strwythur i’r dydd ac i’r lleoliadau o’ch cwmpas
Ffordd arall mae nifer o aelodau’r pwyllgor wedi gallu lleihau straen a phwysau gwaith yn ystod y cwarantin yw trwy geisio cadw trefn a strwythur i’r dydd, yn debyg i ddiwrnod ysgol arferol. Er enghraifft, codi erbyn 9 o’r gloch ac yna ceisio gwneud gwaith ysgol. Yna mae modd gorffen erbyn 3 i allu cyflawni unrhyw weithgareddau/ diddordebau ychwanegol ar ôl hynny. Mae hyn yn sicrhau trefn i’r dydd a’ch bod yn cwblhau’r holl waith erbyn y terfyniadau amser a osodwyd gan yr ysgol. Mae ceisio mynd i’r gwely erbyn amser synhwyrol yn bwysig hefyd ar gyfer eich iechyd meddwl. Os ydych yn codi’n hwyr mae’n fwy tebygol y byddwch yn flinedig ac o ganlyniad, gall hyn gael effaith negyddol ar eich ffordd o feddwl. Hefyd mae rhai aelodau yn ffeindio bod tacluso eu hystafelloedd bob bore cyn gwneud unrhyw beth arall yn eu helpu nhw i glirio eu meddyliau. Hoff ddull aelodau eraill y pwyllgorau i leihau straen yw ysgrifennu dyddiadur yn ystod y cwarantin, a chofnodi beth maent wedi cyflawni yn ystod y dydd. Mae hyn yn dystiolaeth clir o beth maen nhw wedi llwyddo i wneud yn ystod y dydd ac hefyd i allu edrych yn nol arno mewn cwpwl o flynyddoedd. Trwy gadw strwythur i’ch diwrnod mae’n eich galluogi chi i deimlo fel eich bod wedi cyflawni mwy o fewn y dydd ac o ganlyniad bydd eich iechyd meddwl yn elwa.
Mae’n bwysig iawn i gadw mewn cof yn ystod yr amser unigryw a rhyfedd yma dydych chi ddim ar ben eich hun. Hefyd, mae’n bwysig deall mae’n gwbl normal i gael diwrnodau pan nad ydych yn teimlo lan i wneud unrhyw beth, neu eisiau gorwedd yn y gwely yn gwylio’r teledu drwy’r dydd. Mae angen diwrnodau fel hyn er mwyn ail-wefru eich hun. Os ydych yn pryderu am unrhyw beth neu angen rhywun arall i siarad â nhw, gallwch gysylltu ag unrhyw un o’r athrawon (dydyn nhw ddim yn ddieithriaid ac maen nhw wastad ar ochr arall y cyfrifiadur). Neu os hoffech siarad â disgybl, gallwch gysylltu ag unrhyw un sydd yn y Pwyllgorau Hawliau. Os ydych yn pryderu am unrhyw beth, gallwch hefyd ymweld a chysylltu â:
