White Saviour Complex

Gan David Ingham

Mae’n debyg bod pawb erbyn nawr wedi clywed am farwolaeth George Floyd yn yr Unol Daleithiau – dyn croenddu, 46 oed, a laddwyd gan blismon yn penlinio ar ei wddf wrth iddo waeddu “I can’t breathe”. Cafodd ei stopio gan yr heddlu am ddefnyddio $20 ffug (yn ôl yr heddlu). Mae’n syfrdanol i feddwl bod $20 – neu £16 – yn werth lladd person drosto. Nid oedd George Floyd yn fygythiad i’r heddlu mewn unrhyw ffordd am ei fod yn ddi-arf. Mae ei farwolaeth yn un enghraifft o gannoedd o bobl groenddu sydd wedi colli eu bywydau i fryntwch heddlu yr UDA.

Er, nid hiliaeth yr heddlu Americanaidd yw ffocws yr erthygl hon. Yn hytrach, fe fydda i’n sôn am ein hymateb ni tuag ato.

Ydych chi wedi agor Instagram yn ddiweddar? Ydych chi wedi clicio trwy Stories eich ffrindiau a gweld yr un llun eto ac eto? Mae’r un brawddegau yn ymddangos; “Disgusting *emoji bod yn sâl*”, “Can’t believe this *emoji crïo*”, “I wish racism didn’t exist”. A dyma ni yn dilyn y lincs, yn arwyddo’r deisebau, ac yn ymuno â phwyllgorau gwrth-hiliaeth. Wrth wneud hyn, teimlwn fel ein bod yn gwneud gwahaniaeth i’r byd. Ydych chi wedi agor Instagram yn ddiweddar?

Ond pa wahaniaeth ydy hyn yn gwneud? Sut fyddai person croenddu yn teimlo am berson croenwyn – yn hanesyddol, ei ormeswr (oppressor) – yn sefyll lan drostynt? A ydy llais person croenwyn yn fwy ddylanwadol nag un Affricanaidd-Americanaidd? A ydyn ni yn creu mwy o broblem na datrysiad? Dyma a elwir yn ffenomenon White Saviour Complex (WSC).

Yn syml, WSC yw’r syniad bod pobl croenwyn yn gallu rhoi terfyn ar hiliaeth a thlodi a.y.y.b. gan ddefnyddio eu dylanwad a phŵer cymdeithasol. Trwy gydol hanes modern, mae’r ffenomenon hon wedi bod yn amlwg. Mae yna ddarn o farddoniaeth enwog gan Rudyard Kipling o’r enw ‘The White Man’s Burden’ (1899). Mae’n sôn am y Rhyfel Americanaidd-Ffilipino a’r ‘baich’ sydd ar bobl groenwyn i edrych ar ôl pobl croenddu am eu bod nhw yn ‘llai clyfar’ na phobl croenwyn. Mae’n cynghori America i oresgyn ar Ynysoedd y Ffilipinau er mwyn i’w cymdeithas ffynnu o dan arweiniad Gorllewinol. Mae’n portreadu rhywbeth erchyll fel gweithred o ‘arwriaeth’. Dyma’r pennill cyntaf;

“Take up the White Man’s burden—

Send forth the best ye breed—

Go bind your sons to exile

To serve your captives’ need

To wait in heavy harness

On fluttered folk and wild—

Your new-caught, sullen peoples,

Half devil and half child.”

Yn y byd modern, mae’n amlwg ein bod ni llawer yn llai plaen na hynny. Pe bai rhywun yn sôn am “serving your captives’ need” neu bobl “half devil and half child”, byddent yn wynebu anferth o adlach (backlash). Gellid ddweud bod WSC modern yn ymddangos mewn rhaglenni dogfen Comic Relief, lle mae enwogion megis Stacey Dooley yn teithio i wledydd tlawd ac yn postio lluniau o’i hunain yn dal plentyn Africanaidd gyda’r capsiwn, “Obsessed” (roedd hyn yn sgandal fawr llynedd). Mater hynod o ddadleuol ydy hyn, gyda Stacey Dooley yn dadlau ei bod hi’n gwneud gwaith elusennol pwysig ac eraill yn dadlau eu bod hi’n gwrthrycholi lliw croen y plentyn. Enghraifft posib arall o WSC fyddai teithiau tramor y Teulu Brenhinol, am y gellid ddadlau mai gwladychiaeth (colonialism) hanesyddol gwledydd fel y DU ydy’r prif reswm am dlodi yng nghyfandir yr Affrig.

Un o brif elfennau’r ffenomenon WSC yw ein bod ni fel arfer yn methu â’i sylwi. Does dim amheuaeth bod gan White Saviours amcanion caredig, ond fel yr ysgrifennir mewn erthygl gan Janice Erlbaum (sy’n cyfaddef arfer bod yn White Saviour) – “I was trying to provide empathy. Instead, I provided pity”. O safbwynt person croenddu, gall weld person croenwyn yn ceisio trwsio problemau a wnaethant hefyd eu hachosi (e.e. hiliaeth) fod yn nawddoglyd iawn.

“Doing good is arduous, slow, and often thankless… It’s not a summer here, a week there. It is not a GoFundMe, or bake sale. It is not a paper bead necklace intervention.”

– Teddy Ruge, sy’n gweithio i’r cwmni datblygiad rhyngwladol, Raintree Farms

I berson gyda meddylfryd fel fi, gall hyn fod yn eithaf frustrating. Ydy hi’n beth ddrwg i gefnogi elusennau? Onid oes hawl gen i fynegi fy marn am faterion sy’n fy nghynddeiriogi? Oes unrhyw beth y galla i wneud i helpu?

Y gwir yw, bydd yna wastad ddadl ynglŷn â hawliau pobl croenwyn i siarad am y materion hyn. Mewn ysgol fel Gŵyr, mae’n ffaith nad oes llawer o amrywiaeth o ran hil, a gellid ddadlau bod bodolaeth ein Pwyllgor Gwrth-Hiliaeth ac Islamoffobia yn enghraifft o WSC – ein bod yn grŵp o blant dosbarth canol, croenwyn sy’n credu i ni allu datrys holl broblemau’r byd gyda phosteri a gwasanaethau. Ond mae’n bwysig cofio un gair – un sy’n diffinio ein hysgol ni. Parch.

Os ydyn ni fel pobl croenwyn yn trin pobl croenddu fel ein cydraddolion, yn cydnabod eu bod nhw yn gwybod mwy am hiliaeth na ni, yn peidio â siarad drostynt, ond yn hytrach eu cefnogi – gallem osgoi’r White Saviour Complex yn gyfan gwbl.

Leave a comment